![]() |
|||
![]() |
![]() |
||
![]() |
|||
![]() |
PRIFFYRDD Malltod 99/0398/F/105 - Cyngor Sir y Fflint - Priffyrdd Roedd y Cyngor yn bwriadu adeiladu ffordd osgoi newydd ac roedd y llwybr dewisol ryw 15 medr o ffin bwthyn yr achwynydd. Ers 1994 bu i gyn-Cyngor Sir Clwyd ar Cyngor geisio caniatad ariannol oddi wrth y Swyddfa Gymraeg er mwyn dylunior cynllun, ond ni chafwyd y fath ganiatad. Er hynny, roedd y ffordd osgoi arfaethedig wedi aros yn rhaglen briffyrdd y Cyngor. Nid oedd eisiau dim o dir yr achwynydd er mwyn adeiladur ffordd osgoi, ond bu iw hymdrechion i werthui bwthyn yn ofer. Roedd prynwyr disgwyliedig wedi tynnun ol gan fod y ffordd osgoi arfaethedig yn anghysurus o agos ir bwthyn. Bu ir achwynydd osod rhybudd malltod ar y Cyngor; gosododd y Cyngor wrth-rybudd iddi ar y sail nad oedd eisiau unrhyw ran oi bwthyn mewn cysylltiad ar ffordd osgoi. Gofynnodd yr achwynydd wedyn ir Cyngor i ymarfer ei ddiscresiwn oi phlaid o dan Ddeddf Priffyrdd, 1980, i brynu ei bwthyn ar y sail y byddai ei mwynderau byw wedi cael eu effeithion andwyol wrth adeiladur ffordd osgoi. Er fod ymarfer ei ddiscresiwn ddim wedii ddirprwyo gan y Cyngor iw swyddogion, gwrthododd swyddogion gyflwyno cais yr achwynydd ir aelodau etholedig oherwydd, ym marn y swyddogion, roedd diffyg cynllun manwl yn ei gwneud yn amhosib i farnu os oedd y bwthyn yn cael ei effeithion ddifrifol o fewn ystyr Deddf 1980. Penderfynodd yr Ombwdsman i ddilyn ei ymholiadau ir gwyn hyd at gyhoeddi adroddiad ffurfiol gan fod y Cyngor wedi methu rhoi ystyriaeth deg a phenodol iw ymarferiad oi ddiscresiwn. Fodd bynnag, cyn ir ymchwiliad gael ei gwblhau, adroddodd swyddogion y Cyngor gais yr achwynydd i Bwyllgor Cynllunio a Chludiant y Cyngor. Rhoddwyd crynodeb or amgylchiadau yn yr adroddiad ac, hefyd, gyfeiriad at y deddfwriaeth perthnasol, cyngor y llywodraeth a chyngor proffesiynol oddi wrth beirianwyr a phrisiwr y Cyngor. Cafodd yr achwynydd gopi or adroddiad cyn cyfarfod or Pwyllgor, a chafodd gyfle i osod ei sylwadau ar yr adroddiad ai barn ei hun iw hystyried gan y Pwyllgor. Ystyriodd y Pwyllgor y materion perthnasol a chynrychioliadaur achwynydd cyn dod ir casgliad y dylai penderfyniad gael ei ohirio (yn unol ai chais) hyd nes roedd digon o waith dylunio wedii wneud ar y ffordd osgoi arfaethedig. Roedd yr Ombwdsman yn fodlon fod y Cyngor wedi cymryd camau rhesymol i roi meddyginiaeth am unrhyw anghyfiawnder a ddeilliodd ir achwynydd oi fethiant blaenorol i roi ystyriaeth deg iw ymarferiad oi ddiscresiwn. Eglurodd yr Ombwdsman ir achwynydd na fedrai gwestiynu haeddiant penderfyniad yr aelodau. Roedd unrhyw anghyfiawnder a ddywedai iddi ddioddef oherwydd y penderfyniad ddim wedi codi o gamweinyddu blaenorol y Cyngor. Hefyd, byddai dehonglir darpariaethau cyfreithiol yn fater i Lys Barn ac nid ir Ombwdsman. Terfynodd yr Ombwdsman ei ymchwiliad ar y sail fod y gwyn wedii setlo iw foddhad, ac na fyddai dilyn ei ymholiadau yn cyflawni unrhyw bwrpas na dod i ganlyniad gwahanol. Cyhoeddodd yr Ombwdsman adroddiad byr i gadarnhau ei benderfyniad. |
||
27 Ionawr 2000 |
|||