![]() |
|||
![]() |
![]() |
||
![]() |
|||
![]() |
TAI Trosglwyddiad 99/0336/AC/212 - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy - Tai Ar ol llofruddiaeth merch ifanc yn ei ardal, cyflwynodd y Cyngor bolisi oedd yn gwahardd oi restr aros am dai, unrhyw berson a gafodd ei ddyfarnun euog o drosedd dan Ddeddf Troseddwyr Rhyw, 1997. Roedd y polisi, hefyd, yn cynnwys tenantiaid presennol oedd yn ceisio trosglwyddiad i eiddo arall. Tenant presennol y Cyngor oedd yr achwynydd a gafodd ei ddyfarnun euog o ddau drosedd rhywiol ryw 30 mlynedd yn gynharach mewn rhan arall or wlad. Gofynnodd ir Cyngor am ei gymeradwyaeth i gael trosglwyddiad oi denantiaeth i dy ar ystad gerllaw a oedd ar fin dod yn wag. Dywedodd y Cyngor wrth yr achwynydd na fedrai gael ei ystyried, am drosglwyddiad o ganlyniad i bolisir Cyngor ar droseddwyr rhyw. Roedd yr achwynydd ai wraig yn flin a beth welent fel annhegwch ym mhenderfyniad y Cyngor. Penderfynodd yr Ombwdsman i ddilyn ei ymholiadau ir gwyn hyd at gyflwyno adroddiad cyhoeddus gan ei bod yn ymddangos fod gan y Cyngor bolisi cynhwysfawr o wahardd pob troseddwr rhyw oi restr aros am dai heb ystyried yr amgylchiadau arbennig, ac er cael cyngor proffesiynol ei swyddogion ei fod yn llyffetheirio ei ddiscresiwn yn anghyfreithlon. Fodd bynnag, bu i gabinet y Cyngor gytuno yn ddiweddarach i adolygur polisi a phenderfynu y dylai cais yr achwynydd am drosglwyddiad gael ei gofretru ar y rhestr aros. Cytunodd y cabinet, hefyd, yn unol ag argymhelliad y Prif Swyddog Tai y dylai polisir Cyngor gael ei adolygu ar ol ymgynghori efor heddlu, y gwasanaeth prawf, Adran y Gwasanaethau Cymdeithasol ar Adran Addysg. O dan yr amgylchiadau yma, penderfynodd yr Ombwdsman i derfynu ei ymchwiliad ir gwyn, a chyflwynodd adroddiad byr yn cadarnhau ei benderfyniad. |
||
17 Chwefror 2000 |
|||