![]() |
|||
![]() |
![]() |
||
![]() |
|||
![]() |
CYNLLUNIO Gorchymyn Diogelu Coed 98/1144/CN/128, 99/0462/CN/158 & 99/0483/CN/160 - Cyngor Gwynedd - Cynllunio Cwynodd yr achwynwyr am y modd y gwnaeth y Cyngor Orchymyn Diogelu Coed ar gyfer coed ar dir ger eu cartrefi (saif nifer or coed ar dir syn eiddo un or achwynwyr). Maer achwynwyr yn honni fod y Cyngor heb ufuddhau ir gofynion trefniadol syn rheoli gwneuthur y fath orchmynion, ac maent hefyd yn honni i aelod or Cyngor dramgwyddor Cod Ymddygiad Llywodraeth Leol. Mae swyddogion y Cyngor wedi cydnabod na chafodd yr achwynwyr gopi or gorchymyn a gadarnhawyd o fewn yr amser penodedig. Darganfuodd yr Ombwdsman, hefyd, er y cyngor a roddwyd yn nodiadau technegol y Swyddfa Gymreig, fod y Cyngor wedi methu rhoi rhesymau am iddo wrthod gwrthwynebiadau ir Gorchymyn Diogelu Coed, ac am iddo gadarnhaur gorchymyn. Hefyd, bu oedi annerbyniol cyn ateb llythyrau un or achwynwyr. Daeth yr Ombwdsman ir casgliad fod y gwendidau yma yn gyfystyr a chamweinyddu. Fodd bynnag, testun pryder mwy difrifol ir Ombwdsman oedd ymddygiad cynghorydd oedd yn gyd berchennog peth or tir yr effeithiwyd arno gan Orchymyn Diogelu Coed y Cyngor. Maer gyfraith yn mynnu y dylai ddatgan buddiant mewn unrhyw dir yng Ngwynedd mewn cofrestr statudol a gedwir gan y Cyngor, ac sydd ar gael ir cyhoedd ei archwilio. Rhaid iddo ddiweddaru unrhyw wybodaeth yn y gofrestr. Mae cofnod y cynghorydd yn y gofrestr statudol, a arwyddwyd ganddo, yn dweud nad oes ganddo fuddiant llesiannol mewn unrhyw dir yn y Sir. Maer cofnod hwnnw yn anghywir. Yn y pen draw, dim ond llys barn all benderfynu a ywr cynghorydd wedi cyflawni tramgwydd drwy beidio a chofrestru ei fuddiant yn y tir yr effeithiwyd arno gan y gorchymyn, ond roedd yr Ombwdsman yn fodlon ei fod, drwy beidio a datgan a chofrestru ei fuddiant yn y tir, wedi methu ufuddhau ir Cod Ymddygiad Llywodraeth Leol. Roedd yr Ombwdsman yn argyhoeddedig, hefyd, nad ufuddhaodd y cynghorydd ir Cod Ymddygiad Llywodraeth Leol yng nghyfarfod pwyllgor or Cyngor lle cafodd y gorchymyn ei gadarnhau. Ni ddatganodd ei fuddiant yn y cyfarfod, ac ni fu iddo adael y cyfarfod ar unrhyw adeg. Barnodd yr Ombwdsman, hefyd, fethiant y Cyngor i gadw cofnodion i ddangos enwr aelod a gynigiodd y dylid cadarnhaur gorchymyn. Dywedodd fod nodiadau clerc y pwyllgor yn gofnod pwysig, a gallant fod yn neilltuol o bwysig pan gyfyd cwestiynau ynghylch ymddygiad aelod. Dylai clercod pwyllgorau, fel rheol gyffredinol, nodi yn eu llyfrau nodiadau personol enwaur rheini syn cynnig ac yn eilio cynnig neu welliant, enwaur rheini syn siarad mewn dadl, ac enwau unrhyw aelodau syn gadael cyn ir cyfarfod ddod i ben. Maen ofynnol ir Ombwdsman enwi yn ei adroddiad unrhyw gynghorydd sydd wedi torri Cod Ymddygiad Llywodraeth Leol os na fydd wedii fodloni y byddain annheg i wneud hynny. Maer cynghorydd yn yr achos yma wedi cael gwybodaeth o oblygiadau statudol yr Ombwdsman, ac wedi cael y cyfle i osod rhesymau ir Comisiynydd paham y byddai yn annheg iw enwi yn yr adroddiad. Ni chafwyd unrhyw resymau or fath oddi wrth y cynghorydd, ac felly cafodd ei enwi yn yr adroddiad. Darganfuodd yr Ombwdsman, hefyd, fod yr achwynwyr wedi dioddef peth anghyfiawnder o ganlyniad i fethiant y Cyngor i ddilyn y camau statudol wrth gadarnhaur Gorchymyn Diogelu Coed. Y feddyginiaeth addas, fel ag awgrymwyd yn barod gan swyddogion y Cyngor, oedd ir Gorchymyn Diogelu Coed iw adolygu gan y Cyngor. Er mwyn atal y camweinyddu ar anghyfiawnder, argymhellodd yr Ombwdsman ir Cyngor i sicrhau fod:- a) ei holl aelodau yn gwybod fod rhaid iddynt ddiweddaru eu cofnodion unigol yn y gofrestr fuddiannau statudol; b) swyddogion yn gyfarwydd ar drefn statudol ar gyfer gwneud Gorchymyn Diogelu Coed ac yn dilyn y drefn honno yn y dyfodol; c) clercod pwyllgorau yn cadw cofnod ysgrifenedig digonol yn eu llyfrau nodiadau o ba aelodau syn cymryd rhan mewn trafodaethau, a pha aelodau syn gadael cyfarfod cyn iddo ddod i ben. |
||
04 Chwefror 2000 |
|||