Ymchwiliadau

TIR

99/0328/CY/163 - Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili - Tir

Roedd yr achwynwyr yn honni fod y Cyngor wedi oedi, heb reswm, i werthu darn o dir iddynt, oedd wedii leoli ger ei cartref, eu ir Cyngor gytunor gwerthiant yn gynharach. Maer darn o dir yma wrth ymyl y darn o dir oedd yn destun adroddiad Rhif 99/0072/CY/150 uchod a gafodd ei werthu trwy gamgymeriad i drigolyn arall or ardal lle maer achwynwyr yn byw. Maer achwynwyr yma yn dweud fod penderfyniad y Cyngor i beidio a gwerthu un or darnau o dir yn annheg o gymharu ai werthiant or tir cyfagos iw cymydog. Roedd y dystiolaeth yn dangos fod y Cyngor wedi bwriadu fod gwerthiant y ddau ddarn o dir iw ohirio er mwyn iddo ystyried cwynion a chynrychioliadau a wnaethpwyd gan drigolion lleol. Oherwydd y diffyg cyfathrebu a nodir yn adroddiad 99/0072/CY/150, bu i werthiant un darn o dir, fodd bynnag, ei gwblhau. Er ir Ombwdsman ddeall siomedigaeth yr achwynwyr am ir Cyngor beidio a gwerthur tir iddynt (ond iw gadw fel tir agored cyhoeddus), dywedodd fod y penderfyniad yn un oedd y Cyngor ar hawl iw wneud. Fodd bynnag, sylweddolodd y Cyngor, yn sgil ei benderfyniad i dynnun ol or gwerthiant, y bu ir achwynwyr, gyda phob ewyllys da, fynd i gostau erthylaidd ynglyn au pryniant arfaethedig. Cytunodd y Cyngor, felly, i ad-dalur costau yma iddynt. Ystyriodd yr Ombwdsman fod hyn yn feddyginiaeth resymol a theg am unrhyw anghyfiawnder a ddioddefwyd gan yr achwynwyr o dan yr amgylchiadau. Ar ol nodir camau a gymerwyd gan y Cyngor i ad-dalur costau ir achwynwyr, ystyriodd yr Ombwdsman na fyddai unrhyw ymchwiliad pellach ganddo wedi cyflawni canlyniad gwahanol. Penderfynodd, felly, i derfynu ei ymchwiliad, ac i ystyried y gwyn fel un a gafodd ei setlo gan y Cyngor.


10 Rhagfyr 1999