Ymchwiliadau

TAI

Grant ar gyfer yr Anabl

99/0149/N/142 - Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell Nedd a Phort Talbot - Tai

Gwnaethpwyd y gwyn gan dad ar ran ei fab a gafodd niwed difrifol gan ei wneud yn anabl ar ol damwain modur ym mis Medi 1998. Daeth y mab adref or ysbyty i fyw gydai rieni ym mis Rhagfyr 1998. Nid oedd y tad yn fodlon ar y ffordd y deliodd y Cyngor ai gais am gymorth tuag at y costau ar gyfer addasu ei dy at anghenion ei fab er mwyn iddo fedru ymdopi ai anabledd.

Yn amodol ir Cyngor dderbyn cais ddilys ar rheolau ar gymhwyster, mae grant ar gyfer yn anabl, fel mab yr achwynydd, yn fandadol. Heblawr cyfrifoldeb statudol yma, roedd cyfrifoldeb statudol arall ar y Cyngor ir anabl fel awdurdod gwasanaethau cymdeithasol o dan Ddeddf Pobl Anabl a Salwch Parhaol, 1970, i wneud trefniadau i addasu cartref person anabl. Fodd bynnag, gan fod yr alwad am grantiau ar gyfer yr anabl yn fwy nar adnoddau ar gael gan y Cyngor roedd system o flaenoriaethau ar gael gan y Cyngor i roddi grantiau mandadol ar gyfer yr anabl. Roedd y blaenoriaeth yn dibynnu ar bwyntiau a oedd yn cael eu cyfrif yn unol ag atebion y person anabl i holiadur y Cyngor. Gwnaethpwyd y cyfrifon gan weinyddwr cynorthwyol, ac os byddair gweinyddwr cynorthwyol yn rhoi llai o bwyntiau ir person anabl na ffigwr drothwy y Cyngor, ni fyddair cais am grant yn cael ei hystyried ymhellach, er cyfrifoldeb statudol y Cyngor. Yn benodol, ni welwyd y person anabl gan swyddog a chymwysterau proffesiynol hyd nes byddai nifer pwyntiaur person anabl wedi cyrraedd ffigwr drothwy y Cyngor.

Bu ir Ombwdsman eisoes ddatgan pryder am y ffordd roedd y Cyngor yn gweinyddu ei system i flaenoriaethu ceisiadau am grantiau ar gyfer yn anabl. Roedd yn debygol fod y broses wedi mynd yn fiwrocrataidd ac yn ddideimlad i anghenion arbennig yr unigolyn. Dylai system y Cyngor gael ei hystyried, hefyd, o gefndir cyfrifoldeb statudol y Cyngor ar patrwm yn ei wariant ariannol. Am y flwyddyn ariannol, 1998/99, bu ir Cyngor ddarparu £3.8 miliwn oi gronfa iw gwario ar grantiau adnewyddu tai diamod, a dim ond £2.3 miliwn ar grantiau mandadol ar gyfer yr anabl. Ymhellach, methodd y Cyngor wario yr holl arian oedd wedi cael eu dosrannu ar gyfer grantiau ir anabl, er iddo or-wario ar grantiau diamodol. Roedd yr Ombwdsman hefyd yn bryderus fod y Cyngor heb ystyried ar wahân ei gyfrifoldebau ir anabl fel awdurdod gwasanaethau cymdeithasol. Ystyriodd yr Ombwdsman ei bod yn annerbyniol ir Cyngor, fel awdurdod gwasanaethau cymdeithasol, ond annog ymgeisydd anabl i geisio grant ar ei gyfer, mewn sefyllfa lle gwyddai na fyddai gobaith ir person hwnnw dderbyn cymorth am amser hir, a phan oedd y broses o asesu angen a phenderfynu blaenoriaeth, mor ddiffygiol. Ystyriodd, felly, fod y gwendidau yma yn system y Cyngor wrth weithredu ei gyfrifoldeb statudol ir anabl yn gyfystyr a chamweinyddu. Fodd bynnag, roedd yr anhyfiawnder a ddeilliodd ir achwynydd ai fab or camweinyddu yma yn gyfyngedig. Ar ol dod adref or ysbyty, cafodd y mab ddau lythyr oddi wrth y Cyngor, un yn cynnig iddo asesiad oi angen, ar llall yn ei gynghori i gysylltu ac adran grantiaur Cyngor er mwyn cael gwybodaeth am grant ar gyfer yr anabl. Cydnabur achwynydd fod y ddau lythyr wediu derbyn, ond ni atebodd y tab nar mab. Ar ol derbyn cynrychioliadaur tad, aeth swyddog asesur Cyngor i weld y mab yn ei gartref, ac anfonwyd y ffurflenni angenrheidiol ir mab ym mis Mai 1999 er mwyn iddo wneud cais ffurfiol am grant ar gyfer yr anabl. Er iddo gael y ffurflenni angenrheidiol, ar ddyddiad adroddiad yr Ombwdsman, nid oedd y tad nar mab wedi cyflwyno cais ffurfiol am grant ir Cyngor. Hyd nes bydd y tad neur mab yn cyflwyno ffurflen gais lawn, ni fydd cyfrifoldeb y Cyngor i benderfynu cais o fewn chwe mis yn codi. Felly, nid ywr oedi cyn dyfarnur grant yn deillio o fethiant y Cyngor. Er hynny, gofynnodd yr Ombwdsman ir Cyngor i sicrhau, yn y dyfodol, fod ei system blaenoriaethu wrth ddyfarnu grantiau yn cael ei seilion glir ar asesiad trylwyr a phroffesiynol o amgylchiadaur person anabl ai angen, ac i sicrhau fod y system flaenoriaethu ddim yn arwain at fethiant i helpur bobl hynny roedd gan y Cyngor gyfrifoldeb iw cymorth.


22 Tachwedd 1999