![]() |
|||
![]() |
![]() |
||
![]() |
|||
![]() |
2002/0259/CG/A002 - CYNGOR SIR CEREDIGION Honnodd y Cynghorydd R.P. Quant fod y Cynghorydd W.P. James wedi torri amodau paragraff 6(1) (b) côd ymddygiad statudol y Cyngor ar gyfer aelodau drwy ymddwyn mewn ffordd y gellid yn rhesymol ystyried ei bod yn dwyn anfri ar swydd aelod neu ar yr awdurdod drwy fethu ag ufuddhau i amod yn y caniatâd cynllunio ar gyfer ei gartref a oedd yn nodi bod yn rhaid bod y deiliaid yn gyflogedig yn lleol ym myd amaeth. Yn ei adroddiad ar ei ymchwiliad ir honiad, fe ddywedodd yr Ombwdsmon nad oedd yn ei chael yn annirnadwy y gallai methiant ar ran aelod o awdurdod cynllunio lleol i ufuddhau i ofynion deddfwriaeth cynllunio neu i ofynion yr awdurdod hwnnw a oedd yn gweithredu fel awdurdod cynllunio lleol, ddwyn anfri ar swydd aelod. Fodd bynnag, nid oedd yn credu y dylid ystyried bod un methiant prin ar ran aelod o awdurdod cynllunio lleol i gydymffurfio â gofyn neu ofynion yr awdurdod cynllunio hwnnw ynddoi hun yn dwyn anfri ar swydd aelod nac ar yr awdurdod. Yn yr achos hwn, penderfynodd nad oedd y Cynghorydd James wedi torri côd ymddygiad aelodau. Fei gwnaeth yn eglur yn ei adroddiad nad ei gyfrifoldeb ef yw penderfynu a oedd y Cynghorydd James mewn gwirionedd wedi torrir amod yn gysylltiedig âr caniatâd cynllunio ar gyfer ei gartref, ac nad ei le ef oedd penderfynu a ddylid cymryd camau gorfodi cynllunio yn erbyn y Cynghorydd James. Serch hynny, wrth ddod i benderfyniad o ran a fu iddo dorri côd ymddygiad aelodau, fe sylwodd fod y Cyngor, fel yr awdurdod cynllunio lleol, wedi penderfynu peidio â chymryd camau gorfodi yn erbyn y Cynghorydd James. Fe gynghorwyd y Cyngor gan ei ymgynghorwyr cynllunio y byddai wedi argymell cymeradwyo unrhyw gais am gael dileur amod cynllunio (a osodwyd ym 1991) pe byddid wedi ei gyflwyno wedi 1998 oherwydd newidiadau a wnaed i gynllun datblygur Cyngor Sir ym 1998. Fodd bynnag, fe ddywedodd yr Ombwdsmon nad oedd yn ystyried, dan amgylchiadaur achos arbennig hwn, bod torrir amod cynllunio yn gyfystyr â methiant i ufuddhau ir côd ymddygiad beth bynnag fo cyngor y swyddog cynllunio. |
||
18 Medi 2002 |
|||